CLWB RYGBI CAERNARFON 1973 i 2013
Atodiad i’r llyfryn
“ Y deng mlynedd ar hugain cyntaf “
sef
Clwb Rygbi Caernarfon ym 40 mlynedd oed
Ar 6 Tachwedd 1973 yng Nghlwb y Marbryn, Caernarfon sefydlodd y “Caernarvon & District Rugby Union Football Club”. Deugain blynedd yn ddiweddaraf mae’r hedyn bach wedi tyfu fod un o brif glybiau rygbi - ac ymhlith y fwyaf Cymreig, yng Ngogledd Cymru ac yng Nghymru. Uchel bwynt y dathliadau roedd Cinio Mawr yng Ngwesty’r Celtic Royal yng Nghaernarfon nos Sadwrn26 Hydref - gyda phedwar cyn Capten y Clwb yn hel atgofion am y degawdau a fu. Hefyd roedd noson gymdeithasol yn y Clwb Rygbi ar nos Iau 6 Tachwedd gyda chyfle hel atgofion a phori trwy luniau a dros bytiau o hanes.
Y Blynyddoedd Cynnar
Cyfuniad o dair elfen bwysig roedd y sbardun sefydlu’r Clwb. Dechrau’r 1970au roedd un o gyfnodau aur y tîm cenedlaethol. [ Sefydlwyd clybiau Pwllheli, Llangefni a Bethesda tua’r un adeg. ] Ers 1953 bu rygbi’n camp gref yn ysgol uwchradd tref Caernarfon o dan arweiniad Des Treen. Wedyn o dan gapteiniaid Einion Angel, Bontnewydd ( Ysgrifennydd cyntaf y Clwb ) chwaraeodd tîm yn enw “Caernarvon” yng Nghwpan Gogledd Cymru. Roedd y blynyddoedd cyntaf yn debyg i sawl clwb arall - yn ymarfer ac yn chwarae ar gaeau a champfa ysgol, sef Ysgol Syr Hugh Owen, ac yn chwarae gemau “gyfeillgar” yn erbyn clybiau lleol. Dechreuodd ail dim yn 1975 a thrydedd yn 1977.
O hydref 1974 roedd gan y Clwb defnydd o Barc Coed Helen ac felly symudodd y prif gae ‘dros yr Aber’ , gyda goleuadau ymarfer cyntefig o 1979 ymlaen. Y tîm cyntaf ar daith ymweld â Chaernarfon oedd Ystrad Rhondda yn 1973. Fodd bynnag roedd rhaid disgwyl tan 1981 cyn i’r Clwb fentro ar daith - i Glasgow. Wedyn bu tro Gwlad Belg, Ffrainc / Llydaw ac Iwerddon. Y timau tramor cyntaf yng Nghaernarfon oedd Combs le Ville o Baris yn 1979 a Canberra West yn.
Ar ôl archwilio eiddo yng Nghaernarfon - gan gynnwys hen argraffdy yn Nhan y Bont a siop hapchwarae yn Stryd Twll yn y Wal, prynodd y Clwb hen ysgol prentisiaid MacKenzie & Brown. Agorodd y Clwb cymdeithasol y 1977. Ymhlith yr unigolion rygbi enwog a fu’n galw heibio oedd Paul Ringer a Tony Ward.
Gan adnabod pwysigrwydd meithrin a datblygu talent ifanc, dechreuodd sesiwn ymarfer ar gyfer plant 7 - 12 oed dros yr Aber yn 1981 o dan lygaid Emrys Jones.
I’r Morfa.
Breuddwyd pob clwb rygbi yw lleoliad gyda digon o gaeau rygbi, ardal ymarfer, parcio digonol a thŷ clwb ar un safle. Erbyn 1980 roedd diffygion dros yr Aber yn amlwg. Gyda chydweithrediad parod Cyngor Arfon, yr ateb oedd cymryd les ar dir Morfa ger Ysbyty Eryri ar gyrion Caernarfon. Ymhen tair blynedd 1980 - 1983 derbyniwyd caniatâd cynllunio, llofnododd prydles, dechreuodd chwarae gemau ac adeiladwyd ystafelloedd newid a storfeydd. Gydag ail-leoli’r tŷ clwb ei hunan i’r Morfa yn 1990 roedd gan y Clwb rhai o gyfleusterau gorau yn y Gogledd. Roedd y cae dros yr Aber ar gael tan 1986. Gwerthwyd yr eiddo ar Ffordd Santes Helen i Gyngor Arfon yn 1993. Yn ystod 1998/99 gyda grant sylweddol gan Gyngor Chwaraeon Cymru gwariwyd £120,000 uwchraddio’r cyfleusterau rygbi ar Y Morfa.
Ar yr ochr chwarae dechreuodd y Clwb llwyddo yng nghystadlaethau. Enillodd naill ai Cynghrair Gwynedd neu Ogledd Cymru bron pob blwyddyn o 1979 i 1987. Yn yr un cyfnod cyrhaeddodd y Clwb trydedd rownd Cwpan cenedlaethol y Bragwyr Cymreig nifer o weithiau rhwng 1979 a 1985.
Llwyddodd y Clwb derbyn aelodaeth o Undeb Rygbi Cymru yn 1991. Fel canlyniad roedd llawer mwy o dicedi ar gael i aelodau ar gyfer gemau rhyngwladol. Gydag ail-strwythuro rygbi yng Nghymru ymunodd Caernarfon ag Adran 4 ( Dwyrain ). Roedd mwyafrif y timau yn ne-ddwyrain Cymru, ac felly roedd llawer o deithio ! Llwyddodd cyrraedd trydedd rownd Cwpan Cymru yn 2002. Gyda’r syniad o rygbi cymunedol ad-drefnwyd y cynghreiriau ac o 2003 roedd y Clwb yn Adran 5 ( Gogledd ) ac unwaith eto yn chwarae yn erbyn clybiau ar draws y Gogledd.
Ar yr un amser roedd rygbi yn datblygu mewn cyfeiriadau eraill. Ers 1991 mae’r Clwb wedi rhedeg tîm ar gyfer yr ieuenctid 16 - 19 oed. Roedd y cyfnod 1994 - 2002 yn un arbennig o lwyddiannus. Er mwyn darparu ar gyfer anghenion yr hogia oedd yn rhy hen ar gyfer y timau cystadleuol ffurfiwyd y GOGs - Geriatrigs o Gaernarfon yn 1993. Ers hynny mae’r tîm wedi chwarae dros Ewrop a thu hwnt yn yr ysbryd ‘never mind the score, every game is a draw'. Sefydlodd Tîm Rygbi y Merchaid yn 1998. O’r cychwyn roeddent llwyddiannus, yn curo timau’r Gogledd ac yn ail yn y cynghrair a chwpan Cymreig. Enillodd Sara Wheldon o Ros Isaf cap o dan 19 oed yn 2003. Kate Jones oedd y chwaraewr cyntaf o'r Clwn ennill Cap dros Gymru. Roedd yr Adran Iau wedi ail-leoli ar Y Morfa gyda hogia a genod ac yn ymarfer ar nos Wener. Yn 1993 dechreuodd sesiynau ymarfer ar gyfer 12 - 16 oed ar nos Fawrth. Y daith gyntaf oedd un i Iwerddon yn 1996. Dechreuodd darparu ar gyfer merched oed ysgol uwchradd hefyd
Y Cyfnod presennol.
Er mwyn llwyddo mae rhaid newid. Felly bu hi gyda Chlwb Rygbi Caernarfon. Gyda’r Tîm Cenedlaethol yn mwynhau cyfnod o lwyddiant, felly bu hi ar Y Morfa.
Gyda mwy a mwy o bobl rhwng 7 a 70 oed yn chwarae rygbi bu rhaid gwella ac estyn y cyfleusterau. Adeiladodd ystafelloedd newid ychwanegol, yn bennaf ar gyfer y genod. Agorodd yr Ystafell Ffitrwydd. Mae’r gegin ‘newydd’ yn ffaeliad enfawr. Gyda draeniau newydd a phridd ychwanegol, rhwystrau a gwell llifoleuadau roedd y caeau yn medru ymdopi ar yr holl draed sy’n ymarfer, hyfforddi a chwarae.
Llwyddiant Clwb Rygbi Caernarfon 2003 – 2013
Tîm 1af
Pencampwyr Gogledd Cymru 2012, 2011, 2008 Ail - 2010, 2009, 2007
Cwpan Gogledd Cymru - enillwyr 2009. Ail 2013
Saith bob Ochr Gogledd Cymru 2013 - 2ail
2ail Dim
Pencampwyr Cynghrair Gwynedd 2013, 2012, 2011, 2010
Pencampwyr Cwpan Gwynedd 2013, 2012, 2011, 2010
Ieuenctid
Pencampwyr Gogledd Cymru 2009
Iau
Ar lefelau o dan 12, 14 ac 16 mae’r timau wedi profi cryn lwyddiant yng nghystadleuaeth Cwpan Eryri ar gyfer eu hoedrannau.
RGC
Y canlynol wedi cynrychioli'r rhanbarth ers 2011 - Andrew Williams, Liam Leung, Rhodri Evans, Aaron Gwyn, Morgan Williams, Dylan Owen, Gwilym Jones, Jack Matthews, Lance Owen, Iolo Evans
Merched
Yn ystod y cyfnod byr ers ei sefydlu, mae Tîm y Merchaid wedi ennill eu cynghrair dim llai na DEG o weithiau. Ond roedd rhaid iddynt setlo am golli pedair gwaith yn rownd derfynol y Cwpan Cenedlaethol !
Y GOGs
Ers 2003 nid yw’r GOGs wedi chwarae gymaint o gemau lleol. Fodd bynnag roedd Gŵyl Ewrop Hogia’r Henoed Aur yng Nghaernarfon yn 2011 yn llwyddiant dros ben - ac wedi gwneud elw, elw a fydd yn cynorthwyo rygbi iau yn y cylch.
Yn y cyfnod proffesiynol mae Cai Griffiths ac Iolo Evans wedi mentro i’r De ac wedi cael cryn lwyddiant:-
Cai Griffiths - Cymru Dan 18, 20 , Barbariad a Crawshay’s Cymru, Y Gweilch am 10 mlynedd, Gwyddelod Llundain 2012 a Chymru Llundain 2013/14.
Iolo Evans - Cymru Dan 18, 20 , Tîm 7 bob ochr Cymru, Y Scarlets am 3 mlynedd, Llanelli, a Worcester Warriors.
Yn ogystal chwaraeodd Morgan Williams i Dîm Cymru Dan 16.
Ymlaen i’r Dyfodol
O dan y Pwyllgor presennol nid sefyll yn yr unfan yw’r nod. Gyda’r nifer o chwaraewyr o bob oed a rhyw yn parhau cynyddu, mae rhaid cynnal a chadw’r cyfleusterau presennol at safonau uchel. Mae sicr bydd rhaid datblygu mwy o adnoddau. Bydd rhaid meithrin hyfforddwyr y dyfodol. Mae rhaid ymestyn allan at holl ysgolion y fro - cynradd ac uwchradd. Efallai'r enw gwreiddiol oedd yn fwy cywir - “Caernarvon & District Rugby Union Football Club”. Erbyn heddiw mae Clwb Rygbi Caernarfon yn ffocws rygbi i ardal sy’n ymestyn o’r dref hyd at bentrefi fel Penygroes, Llanberis Llanddeiniolen a’r Felinheli.
Clive James
Hydref 2013.
Please wait as the server processes your request. Do not attempt to refresh the page.